Annwyl riant/ warcheidwad, Mae’r ysgol yn bwriadu cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd eleni. Y cystadlaethau bydd yr ysgol yn hyfforddi os oes digon o ddiddordeb yw: Llefaru unigol a Grŵp llefaru bl.7-9 Ymgom bl.7-9 Cân Actol bl.7-9 Bydd yr ysgol yn cynnal rhagbrofion a chlyweliadau yn ystod amser cinio’r wythnos hon. Bydd ymrwymiad y disgyblion i ymarferion y clwb perfformio hefyd yn sail i’r penderfyniad. Os yw eich plentyn yn ymrwymo i gynrychioli’r ysgol yn y cystadlaethau hyn mae’n rhaid eu bod: - Yn aelod o’r Urdd (mae pob disgybl aeth i Langrannog yn aelodau yn barod). - Ar gael i fynychu ymarferion y Clwb Perfformio Dydd Mawrth 13/2/18 tan 4.30yh. Bob Dydd Iau tan 5.00yh (yn dechrau ar y 1/3/18). - Yn gallu mynychu Eisteddfod Uwchradd Rhanbarth Gwent yn Ysgol Gyfun Cwm Rhymni ar 15/3/18 am 3.30pm. - Petai’r ysgol yn llwyddiannus yn yr Eisteddfod Rhanbarth rhaid i’r disgyblion fod ar gael i fynd i Eisteddfod yr Urdd Brycheiniog a Maesyfed ar faes y Sioe, Llanelwedd rhwng 28 Mai – 2 Mehefin 2018. Mae’r ysgolion uwchradd fel arfer yn cystadlu ar ddydd Mercher/Iau. Bydd yr ysgol yn trefnu bws os oes angen. Os yw eich plentyn eisiau cystadlu mewn cystadlaethau eraill fe fydd angen i chi drefnu eu bod yn cael eu hyfforddi y tu allan i’r ysgol a bydd angen sicrhau bod Miss Lowri Edwards yn gwybod bod angen iddi hi ei g/chofrestru i gystadlu. Celf a gwaith cartref Bydd cyfleoedd i’r disgyblion hefyd gystadlu mewn cystadlaethau gwaith cartref. Bydd angen i’r disgyblion drafod hyn gyda’u hathrawon pynciol. Dyddiad cau’r cystadlaethau ysgrifennu a thechnoleg yw 1/3/18 a bydd angen i’r gwaith gyrraedd yr ysgol erbyn 26/2/18. Rhaid i bob darn o waith Celf a Chrefft gyrraedd yr ysgol erbyn y 20/4/18 er mwyn eu cofrestru gyda’r Urdd erbyn y 25/4/18. Mae’r rhestr testunau ar gael ar lein: http://www.urdd.cymru/files/1514/9821/9652/Rhestr_Testunau_2018.pdf Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr Urdd a’r gweithgareddau y bydd yr ysgol yn rhan ohonynt, peidiwch oedi cyn cysylltu. Diolch, Comments are closed.
|