Ysgol Gyfun Gwent Is Coed
  • Adre/Home
  • Amdanom ni
  • ADY
  • Trochi
  • Ein hysgol
  • Pontio
  • Y Medrau
  • Cwricwlwm
  • Llythyron a Newyddion
  • Disgyblion
  • Rhieni
  • Lluniau
  • English
    • About us
    • Our School
    • ALN
    • Language Immersion Centre
    • Transition
    • The Skills
    • Curriculum
    • News
    • Students Support
    • Parents
  • Letters
  • Adre/Home
  • Amdanom ni
  • ADY
  • Trochi
  • Ein hysgol
  • Pontio
  • Y Medrau
  • Cwricwlwm
  • Llythyron a Newyddion
  • Disgyblion
  • Rhieni
  • Lluniau
  • English
    • About us
    • Our School
    • ALN
    • Language Immersion Centre
    • Transition
    • The Skills
    • Curriculum
    • News
    • Students Support
    • Parents
  • Letters
Search by typing & pressing enter

YOUR CART

Y Medrau

Y medrau yw'r sgiliau allweddol hynny sydd eu hangen ar unigolion i lwyddo tu hwnt i fyd yr ysgol. Dyma'r sgiliau sydd yn agor y drws i ddysgwyr i'r cwricwlwm, i'r byd go iawn ac i'r byd gwaith. Mae'r medrau'n cynnwys sgiliau llythrennedd, rhifedd a Chymhwysedd Digidol. Mae'r sgiliau trawsgwricwlaidd hyn yn orfodol o fewn Cwricwlwm i Gymru ac yn cael eu hymgorffori yng Nghwricwlwm pob Maes Dysgu a Phrofiad.

Llythrennedd

Llythrennedd yw’r gallu i ddarllen, ysgrifennu, siarad a gwrando mewn ffordd sy’n ein galluogi i gyfathrebu’n effeithiol a gwneud synnwyr o’r byd.
Gallwch ddarganfod gwybodaeth bellach am bwysigrwydd Llythrennedd yma: https://literacytrust.org.uk/information/what-is-literacy/
Sail ein holl waith llythrennedd yw strategaethau Llafar Llwyddiannus yr ysgol.  Rydym ni yng Ngwent Is Coed yn awyddus i sicrhau bod llafar gwerthfawr a phwrpasol ym mhob gwers, ym mhob sgwrs ac ym mhob coridor er mwyn i ddysgwyr glywed eu llais, fynegi eu hunain, ddatblygu hyder a gwneud cynnydd. Rydym ni eisiau i'n dysgwyr fod yn uchelgeisiol, hyderus a mentrus a theimlwn fod sgiliau llafar yn allwedd i sicrhau bod dysgwyr Gwent Is Coed yn gadael yr ysgol yn gyfranwyr hyderus, llawn, rhugl, dwyieithog (os nad amlieithog). 
Gallwch ddarganfod gwybodaeth am sut i gefnogi eich plentyn i ddatblygu eu sgiliau llythrennedd drwy fynd i’n gwefan Medrau:
Wefan Llythrennedd GIC

Rhifedd 

Mae cynllun rhifedd Ysgol Gyfun Gwent Is Coed yn canolbwyntio ar saith agwedd penodol o Fathemateg ac yn rhoi cyfleoedd i feysydd dysgu galw uchel i gynllunio eu gwaith rhifedd o gwmpas yr agweddau yma.
Wefan Rhifedd GIC

Cymhwysedd Digidol

Yng Ngwent is Coed mae ein staff wedi ymrwymo i gyflwyno ac addysgu cymhwysedd digidol ar draws y cwricwlwm. Rydym am sicrhau bod disgyblion yn cael y cyfle i ddatblygu eu sgiliau trwy ystod eang o gyd-destunau.
Mae Cymhwysedd Digidol yn statudol ac yn galluogi disgyblion i ddatablygu sgiliau ar draws pob maes dysgu a phrofiad sy’n cael eu hystyried ym mhob cynllun cwricwlwm.
Rydym ni, yng Ngwent is Coed, wedi ymrwymo i weithio ar wersi a phrosiectau newydd a chyffrous er mwyn rhoi ystod o brofiadau yn y byd digidol i bob disgybl i’w gwneud yn unigolion hyderus, uchelgeisiol a chreadigol a fydd yn dod yn ddinasyddion gwybodus a moesegol ar gyfer y dyfodol.
Wefan Cymhwysedd Digidol GIC
Powered by Create your own unique website with customizable templates.