Mae Ysgol Gyfun Gwent Is Coed yn ysgol gynhwysol. Rydym wedi ymrwymo’n llwyr i ddileu’r rhwystrau i ddysgu a sicrhau bod pob dysgwr yn derbyn y gefnogaeth i allu cyfranogi’n llawn ym mywyd yr ysgol a chyflawni eu potensial. Rydym yn gwerthfawrogi bod pob dysgwr yn unigolyn, ac felly byddwn yn rhoi sylw i’w hanghenion amrywiol mewn modd sensitif ac effeithiol. Y nod yw sicrhau bod pob dysgwr yn cael mynediad i gwricwlwm eang a chytbwys sydd wedi ei greu ar gyfer anghenion dysgwyr unigol.