




CROESO
Yn Ysgol Gyfun Gwent Is Coed mae popeth a wnawn wedi'i liwio gan ein hymrwymiad i gynhwysiant, lles a rhagoriaeth. Trwy addysg cyfrwng Cymraeg o’r safon uchaf, rydym yn cefnogi dysgwyr i dyfu'n academaidd, yn gymdeithasol ac yn bersonol.

Datblygu pob unigolyn yng nghymuned yr ysgol i fod y gorau maent yn gallu bod gan annog uchelgais a dysgu gydol oes.
Gweledigaeth
Darparu addysg o’r safon uchaf gydag unigolion yn datblygu i fod yn alluog a gwybodus ac sy’n cyfrannu’n llawn i’w cymdeithas.
Ymfalchio yn ein cymuned lleol a hybu Cymreictod mewn ardal o Gymru sy’n unigryw o ran diwylliant, cymdeithas a hanes.
Creu cymuned hapus o fewn yr ysgol lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn ac yn cael eu trin yn deg gyda phawb yn parchu ei gilydd.
Datblygu unigolion sy’n ddinasyddion egwyddorol ac sy’n ymddiddori mewn materion sy’n ymwneud â’u hardal leol, Cymru, Ewrop a’r byd.
Sicrhau bod lles unigolion yn flaenoriaeth gan arwain at ddatblygu unigolion iach, hyderus a gwydn sy’n gallu gwneud cynnydd a symud ymlaen tuag at ddyfodol llwyddiannus.
Annog cydweithredu ardderchog rhwng pob aelod o gymuned yr ysgol gan greu awyrgylch o ymddiriedolaeth, caredigrwydd, cynhesrwydd a hwyl.
Hybu unioglion i fod yn greadigol ac yn fentrus gan wneud y mwyaf o’u talentau a’u diddordebau a sicrhau ein bod yn darparu profiadau gwych i holl gymuned yr ysgol.
Digwyddiadau
Sydd i Ddod

Noson Bontio Blwyddyn 7Mer, 10 Meh
Pontio Dydd a Nos Blwyddyn 6Mer, 24 Meh
Diwrnod HMSGwen, 26 Meh

Dolenni Defnyddiol



















