
Amdanom Ni
Dathlu diwylliant Cymreig a meithrin cymuned gefnogol lle gall pob disgybl ffynnu.

Iaith swyddogol Ysgol Gyfun Gwent Is Coed yw’r Gymraeg a dyma gyfrwng dysgu ac arholi pob pwnc ar wahân i Saesneg. Bydd pob disgybl yn astudio Cymraeg fel pwnc ac yn sefyll arholiadau iaith gyntaf yn unig yn y Gymraeg.
Mae Ysgol Gyfun Gwent Is Coed yn gynhwysol ac o dan amgylchiadau arferol mae mynediad i Ysgol Gyfun Gwent Is Coed yn agored i ddisgyblion 11+ oed o unrhyw allu a gydag anghenion arbennig.
Rhoddir cyfle i bob disgybl ddatblygu hyd eithaf eu gallu, yn academaidd, yn gymdeithasol, yn ddiwylliannol ac yn gorfforol.
Datblygu pob unigolyn yng nghymuned yr ysgol i fod y gorau maent yn gallu bod gan annog uchelgais a dysgu gydol oes.
Gweledigaeth yr Ysgol
Darparu addysg o’r safon uchaf gydag unigolion yn datblygu i fod yn alluog a gwybodus ac sy’n cyfrannu’n llawn i’w cymdeithas.
Ymfalchio yn ein cymuned lleol a hybu Cymreictod mewn ardal o Gymru sy’n unigryw o ran diwylliant, cymdeithas a hanes.
Creu cymuned hapus o fewn yr ysgol lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn ac yn cael eu trin yn deg gyda phawb yn parchu ei gilydd.
Datblygu unigolion sy’n ddinasyddion egwyddorol ac sy’n ymddiddori mewn materion sy’n ymwneud â’u hardal leol, Cymru, Ewrop a’r byd.
Sicrhau bod lles unigolion yn flaenoriaeth gan arwain at ddatblygu unigolion iach, hyderus a gwydn sy’n gallu gwneud cynnydd a symud ymlaen tuag at ddyfodol llwyddiannus.
Annog cydweithredu ardderchog rhwng pob aelod o gymuned yr ysgol gan greu awyrgylch o ymddiriedolaeth, caredigrwydd, cynhesrwydd a hwyl.
Hybu unioglion i fod yn greadigol ac yn fentrus gan wneud y mwyaf o’u talentau a’u diddordebau a sicrhau ein bod yn darparu profiadau gwych i holl gymuned yr ysgol.

Cydnabu Estyn arweinyddiaeth gryfach a hunanwerthuso mwy cyson ar draws yr ysgol.
Llythyr Ymweliad Interim Estyn (Hydref 2025)
.jpg)
Canfu Estyn fod arweinwyr yn defnyddio data cyrhaeddiad a lles yn effeithiol i gefnogi cynnydd disgyblion.
Llythyr Ymweliad Interim Estyn (Hydref 2025)

Cydnabu arolygwyr ddiwylliant cryf o gydweithio a gwelliant parhaus yn yr ysgol.
South Wales Argus, Tachwedd 2025

Dyluniwyd gan Icon Creative Design
Ysgol Gyfun Gwent Is Coed
Ffordd Dyffryn
Casnewydd
NP10 8BX
CYSYLLTWCH Â NI
gwent.iscoed@ysgolioncasnewydd.cymru
Phone: ​01633 851614
Ysgol Gyfun Gwent Is Coed © 2026
DILYNWCH NI

CYSYLLTIADAU CYFLYM