
Dysgu ac
Addysgu
Yn Ysgol Gyfun Gwent Is Coed, mae’r dysgu ac addysgu o’r safon uchaf er mwyn sicrhau bod ein dysgwyr yn derbyn y ddarpariaeth orau posibl.
Mae Ysgol Gyfun Gwent Is Coed yn ysgol uwchradd ddynodedig cyfrwng Cymraeg i ddysgwyr rhwng 11 ac 18 oed. Caiff ei chynnal gan Cyngor Dinas Casnewydd ac mae’n gwasanaethu Casnewydd a De Mynwy. Iaith swyddogol Ysgol Gyfun Gwent Is Coed yw’r Gymraeg a dyma gyfrwng dysgu ac arholi pob pwnc ar wahân i Saesneg. Bydd pob disgybl yn astudio Cymraeg fel pwnc ac yn sefyll arholiadau iaith gyntaf yn unig yn y Gymraeg.
Mae Ysgol Gyfun Gwent Is Coed yn gynhwysol. O dan amgylchiadau arferol mae mynediad i Ysgol Gyfun Gwent Is Coed yn agored i ddisgyblion 11+ oed o unrhyw allu a gydag anghenion arbennig. Rhoddir cyfle i bob disgybl ddatblygu hyd eithaf ei allu yn academaidd, yn gymdeithasol, yn ddiwylliannol ac yn gorfforol. Paratoir pob disgybl ar gyfer gofynion byd gwaith. Cynigr yr un cyfle cyfartal i bawb heb wahaniaethu ar sail gallu, rhyw, hil na chrefydd.

Pileri Gwent Is Coed yw'r "cynhwysion" sydd angen er mwyn sicrhau addysgeg o'r safon uchaf.
Datblygwyd ein Pileri Addysgeg ar y cyd wrth gasglu syniadau'r holl athrawon am yr hyn sydd yn hanfodol mewn gwers neu wersi da.
Mae'r pum piler addysgeg yn sail i'r hyn rydym yn cytuno yw ein nod mewn unrhyw wers neu gyfres o wersi- sef cynnydd ac ymgysylltiad ein dysgwyr. Mae bob un o'r pileri yn cyfrannu at sicrhau'r nod hynny.
​
O fewn pob piler mae arferion addysgeg, hyfforddiant ar waith ymchwil mae staff yn derbyn ac yn cynnal er mwyn hwyluso addysgeg o’r safon uchaf
Y Pileri yw
Ymddygiad ar gyfer Dysgu
Anelu at y Sêr
Cynllunio Gofalus
Asesu
Y Medrau - Llythrennedd, Rhifedd a Cymhwysedd Digidol

Yn Ysgol Gyfun Gwent Is Coed mae datblygu sgiliau dysgwyr yn bwysig iawn i ni. Mae'r tri sgil yn rhan annatod o'r dysgu ac addysgu ac maent wedi'u hymgorffori mewn gwersi.
Llythrennedd
Ysgrifennu
Yn Ysgol Gyfun Gwent Is Coed rydym yn defnyddio amrywiaeth o strategaethau i gefnogi ein dysgwyr i fod yn ysgrifenwyr medrus a hyderus ar draws ar y cwricwlwm. Defnyddiwn strategaethau megis: datblygu geirfa pwnc penodol, ymestyn brawddegau, paragraffau pwerus a striben strwythur i ddatblygu sgiliau ein dysgwyr yn drawsgwricwlaidd.
Llafar Llwyddiannus
Wedi ein sbarduno gan Voice 21, Talk the Talk ac ymchwil addysgeg, mae strategaethau llafar llwyddiannus yn rhan annatod o ddulliau addysgu Ysgol Gwent Is Coed. Gan ganolbwyntio ar ddatblygu sgiliau corfforol, ieithyddol, gwybyddol ac emosiynol a chymdeithasol defnyddiwn amrywiaeth eang o strategaethau i sicrhau bod ein dysgwyr yn siaradwyr eangfrydig sydd yn gallu mynegi ei hunain yn hyderus ac yn gwrando yn effeithiol ar eraill.
Darllen
Diffiniad y gair darllen yw: “y weithred neu sgil o edrych ar, a deall ystyr deunydd sydd wedi ei ysgrifennu neu brintio trwy ddehongli lluniau, symbolau neu eiriau”. Nid geiriau yn unig yw darllen felly, yn hytrach mae’n ddull o brosesu iaith a gwybodaeth i hybu meddwl dwfn a dysgu effeithiol. Trwy ddatblygu uwch fedrau ein dysgwyr yn effeithiol, a thrwy hybu darllen ar draws y cwricwlwm ac er pleser, bwriadwn godi hyder a mwynhad ein dysgwyr wrth ddarllen a’u galluogi i ddilyn eu diddordebau a chyflawni eu llawn potensial.
Rhifedd
Mae datblygu sgiliau rhifedd ar draws y cwricwlwm yn rhan annatod o’n gwaith ni yma yng Ngwent Is Coed. Gan weithio gyda meysydd galw uchel megis Gwyddoniaeth a Thechnoleg a Dyniaethau, rhoddir cyfleoedd i ddysgwyr i ddatblygu sgiliau rhifedd yng nghyd destun pynciau tu allan i’r maes. I rhoi ffocws clir i’r gwaith yma, rydym yn canolbwyntio ar saith elfen o dan y faner “Sgleinio’r Saith”. Datblygir y sgiliau:
-
Y Pedwar Gweithred
-
Ffracsiynau a Chanrannau
-
Cyfartaleddau
-
Amser
-
Cymarebau a Chyfrannedd
-
Llunio a Dehongli Graffiau
-
Unedau Mesur
Gwelir brandio clir ar gyfer y saith sgil i wreiddio deallusrwydd y dysgwyr bod y sgiliau a welir yn eu gwersi Mathemateg yn gallu cael eu defnyddio ar draws y meysydd.
Y Fframwaith Cymhwysedd Digidol yn Ysgol Gyfun Gwent Is Coed
Mae datblygu sgiliau digidol dysgwyr ar draws y cwricwlwm yn rhan greiddiol o’n gwaith yma yn Ysgol Gyfun Gwent Is Coed. Gan gydweithio gyda phob Meysydd Dysgu a Phrofiad, rydym yn sicrhau bod disgyblion yn defnyddio ac yn atgyfnerthu eu sgiliau gan gydweithio gyda phob Maes Dysgu a Phrofiad mewn cyd-destunau ystyrlon ac awthentig.
O fewn y meysydd Ieithoedd, Llythrennedd a Cyfathrebu Ieithoedd, Dyniaethau, Celfyddydau Mynegiannol, Iechyd a Lles, Mathemateg a Rhifedd neu Wyddoniaeth a Thechnoleg, mae dysgwyr yn dod ar draws cyfleoedd pwrpasol i ddefnyddio offer digidol yn ddiogel, yn greadigol ac yn effeithiol.
Mae dysgwyr yn datblygu’r wybodaeth a’r ymddygiadau sydd eu hangen i gymryd rhan yn ddiogel ac yn gyfrifol ar-lein. Mae hyn yn cynnwys deall hunaniaeth ddigidol, gwerthuso gwybodaeth ar-lein, a chydnabod sut gall eu gweithredoedd effeithio arnynt eu hunain ac ar eraill mewn gofodau digidol.
​
Mae dysgwyr yn datblygu’r wybodaeth a’r ymddygiadau sydd eu hangen i gymryd rhan yn ddiogel ac yn gyfrifol ar-lein. Mae hyn yn cynnwys deall hunaniaeth ddigidol, gwerthuso gwybodaeth ar-lein, a chydnabod sut gall eu gweithredoedd effeithio arnynt eu hunain ac ar eraill mewn gofodau digidol.
Trwy ddefnyddio cyfathrebu digidol a llwyfannau cydweithredu, mae dysgwyr yn meithrin hyder wrth weithio gydag eraill drwy rannu cynnwys, cyd-greu gwaith, a rheoli prosiectau digidol yn effeithiol.
Mae disgyblion yn dysgu sut i gynllunio, creu a mireinio cynnwys digidol ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd a dibenion. Maent yn datblygu sgiliau mewn meysydd megis creu amlgyfrwng, trefnu data, ysgrifennu digidol, a chyflwyno gwybodaeth yn glir ac yn gywir.
Mae dysgwyr yn datblygu meddwl rhesymegol, sgiliau datrys problemau a llythrennedd data drwy weithgareddau sy’n cynnwys adnabod patrwm, dilyniannu, algorithmau a chysyniadau rhaglennu syml.
​
Mae brandio clir a chyson ar draws yr ysgol yn helpu i atgyfnerthu’r neges nad yw sgiliau digidol yn cael eu
haddysgu ar eu pen eu hunain, ond eu bod yn rhan annatod o ddysgu bob dydd ym mhob pwnc. Drwy wreiddio’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol ar draws y cwricwlwm, ein nod yw sicrhau bod pob dysgwr yn dod yn ddefnyddiwr hyderus, moesegol gyda’r gallu i lwyddo, yn barod i ffynnu mewn byd sydd yn gynyddol ddigidol.

Opsiynau Blwyddyn 9
Mae'n gyfnod cyffrous ym mywyd dysgwyr Blwyddyn 9. Mae’n gyfnod o newid, cyfnod o ddewis a ddylai arwain at yrfa lwyddiannus a ffyniannus. Cynigir llawer o bynciau a astudir yng Nghyfnod Allweddol 3 ym Mlwyddyn 10, ond bellach bydd cyfle i ddewis cyfeiriad personol; gall y llwybr newydd fod yn un arbenigol, neu gallai gynnwys nifer o opsiynau i ganiatáu dewis ehangach yn y dyfodol.
Opsiynau Blwyddyn 11
Mae Blwyddyn 11 yn nodi cam cyffrous a phwysig yn eich taith addysgol. Yn ein Chweched Dosbarth, bydd gennych y rhyddid i arbenigo yn y pynciau sy’n eich ysbrydoli’r fwyaf, gan adeiladu ar y sylfaen cadarn a ddatblygwyd gennych drwy Gyfnod Allweddol 4. P’un oes gennych gyfeiriad clir mewn golwg neu os ydych am gadw eich opsiynau’n eang, mae ein hamrywiaeth o gyrsiau yn eich galluogi i greu llwybr personol sy’n cefnogi eich uchelgais.
Mae dewis aros gyda ni ar gyfer astudio cyrsiau ôl-16 yn golygu ymuno â chymuned ddysgu gefnogol, uchelgeisiol a bywiog cyfrwng Cymraeg, lle byddwch yn cael eich herio a’ch tywys tuag at gam nesaf eich bywyd, boed hynny’n brifysgol, prentisiaeth neu’n byd gwaith. Trwy barhau â’ch addysg yma yn Ysgol Gyfun Gwent Is Coed, byddwch hefyd yn cael eich addysgu gan athrawon sy’n eich adnabod ac sy’n gwybod sut i’ch helpu i gyflawni eich potensial academaidd yn llawn.
Dyluniwyd gan Icon Creative Design
Ysgol Gyfun Gwent Is Coed
Ffordd Dyffryn
Casnewydd
NP10 8BX
CYSYLLTWCH Â NI
gwent.iscoed@ysgolioncasnewydd.cymru
Phone: ​01633 851614
Ysgol Gyfun Gwent Is Coed © 2026
DILYNWCH NI

CYSYLLTIADAU CYFLYM