top of page

Mrs Eirian Jones 

Pennaeth

Dathlwch gyda ni llwyddiannau ein dysgwyr gweithgar a thalentog. Ymhyfrydwn yn ethos ofalgar yr ysgol lle mae pwyslais ar les ein dysgwyr yn sicrhau eu bod yn gwneud cynnydd ac yn cyflawni eu potensial. Mae brwdfrydedd, egni ac ymroddiad staff yn adlewyrchu’r ymrwymiad i addysg cyfrwng Cymraeg. Mae bod yn ddwyieithog yn agor drysau i ddiwylliant cyfoethog yn y ddwy iaith, ac yn ehangu cyfleoedd i'n dysgwyr yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

 

Ymhyfrydwn yn ein hysgol a’i le yng Nghasnewydd, dinas ar dwf. Mae holl aelodau staff yr ysgol yn ymwybodol o’n cyfrifoldeb i sicrhau llwyddiant Ysgol Gyfun Gwent Is Coed yn yr unfed ganrif ar hugain. Beth bynnag yw’ch cysylltiad ag Ysgol Gyfun Gwent Is Coed, croeso i’n gwefan, ac os ydych am drafod unrhyw agwedd o waith yr ysgol, neu os ydych yn dymuno ymweld â ni, cysylltwch yn syth.

Dyluniwyd gan Icon Creative Design

Ysgol Gyfun Gwent Is Coed 

Ffordd Dyffryn
Casnewydd
NP10 8BX

CYSYLLTWCH Â NI

gwent.iscoed@ysgolioncasnewydd.cymru

Phone: ​01633 851614

Ysgol Gyfun Gwent Is Coed © 2026

DILYNWCH NI

Cymraeg I Bawb_Cymraeg I Bawb.webp
050226_047 Main Crop .jpg

Croeso gan y
Pennaeth

Croeso i’n gwefan. Mawr obeithiaf y cewch fwynhad o bori drwy ein gwefan lle cewch flas ar yr holl gyfleoedd a gweithgareddau sy’n cael eu darparu ar gyfer ein dysgwyr.  

bottom of page