
Arholiadau
Yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch ar gyfer arholiadau yn Ysgol Gyfun Gwent Is Coed
O amserlenni a dyddiadau canlyniadau i ganllawiau a chyngor lles y JCQ dyma gymorth i chi drwy'r cyfnod arholiadau.

-1.png)
Anogwch eich plentyn i greu amserlen adolygu. Mae dysgwyr llwyddiannus yn treulio amser bob dydd yn gwneud un neu fwy o’r gweithgareddau canlynol:
• Cwblhau gwaith cartref
• Ymarfer cwestiynau arholiad
• Adolygu nodiadau o wersi diweddar
• Darparwch le tawel i astudio, yn rhydd o ymyriadau ac amhariadau
•Ceisiwch gynnal awyrgylch tawel a chadarnhaol
• Anogwch eich plentyn i roi dyfeisiau electronig o’r neilltu neu eu cadw mewn ystafell arall yn ystod amser astudio
• Sicrhewch eu bod yn cael digon o gwsg ac yn yfed digon o ddŵr
• Helpwch nhw i drefnu eu hadnoddau fel eu bod o fewn gafael. Sicrhewch eu bod yn tacluso’r ardal yma ar ddiwedd sesiwn adolygu neu yn ystod egwyl
• Mae canllawiau astudio yn ddefnyddiol i ddysgwyr sy’n astudio TGAU a Safon Uwch – fel arfer byrddau arholi WJEC a Pearson
• Mae offer cywir, llyfrau pwnc a Google Classroom yn hanfodol yn ystod adolygu
• Mae angen cyfrifiannell wyddonol ar gyfer Mathemateg (dim ffôn symudol)
• Dysgwch ac anogwch technegau ymlacio (anadlu, ymwybyddiaeth ofalgar, ymlacio cyhyrau – mae llawer o apiau am ddim ar gael)
• Anogwch nhw i gymryd egwyl o’u prif ardal astudio
• Ymarfer corff – hyd yn oed ychydig. Mae’n rhyddhau endorffinau sy’n helpu i leihau straen – ewch am dro gyda’ch plentyn
• Anogwch nhw i siarad â chi am eu teimladau
• Ceisiwch sicrhau eu bod yn bwyta’n iach – bydd hyn yn cefnogi’r system imiwnedd
• Sicrhewch eu bod yn cael digon o gwsg – osgoi’r “jet lag” o ormod o gwsg dros y penwythnos
• Trafodwch eu meddyliau negyddol os ydynt yn ymddangos
• Rhowch gymorth iddyn nhw i adnabod arwyddion o straen ac i ddeall pam maent yn teimlo o dan straen
• Gwnewch rywbeth ymarferol i helpu – cerdded a siarad. Anogwch nhw i ddysgu a defnyddio technegau ymlacio NAWR, yn barod ar gyfer yr haf
• Cynorthwywch eich plentyn i gael rheolaeth dros eu hastudiaethau gyda chynlluniau adolygu, rhestrau gwirio, adnoddau a lle
• Sefydlwch drefn glir o ran bwyta, cysgu a defnyddio ffonau
• Gwnewch yn siŵr eu bod yn mynychu’r ysgol i leihau straen o golli gwaith
• Anogwch eich plentyn i adnabod a delio â meddyliau negyddol, yn enwedig o amgylch amser arholiadau
• Dangoswch eich bod yn falch ohonynt, beth bynnag yw eu canlyniadau!
Canlyniadau Tachwedd 08/01/26
Canlyniadau Ionawr 06/03/26
Canlyniadau’r haf TAU 13/08/26
Canlyniadau’r haf TGAU 20/08/26

Dyluniwyd gan Icon Creative Design
Ysgol Gyfun Gwent Is Coed
Ffordd Dyffryn
Casnewydd
NP10 8BX
CYSYLLTWCH Â NI
gwent.iscoed@ysgolioncasnewydd.cymru
Phone: 01633 851614
Ysgol Gyfun Gwent Is Coed © 2026
DILYNWCH NI

CYSYLLTIADAU CYFLYM
