
Pontio
Mae dechrau yn yr ysgol uwchradd yn gam mawr — ac rydym am i bob dysgwr a'u teuloedd deimlo'n gyffrous, yn wybodus ac wedi'u paratoi'n dda ar gyfer y daith sydd o'n blaenau.
Yn Ysgol Gyfun Gwent Is Coed, rydym yn gweithio'n agos gyda'n hysgolion cynradd clwstwr i wneud yn siŵr bod y symud o Flwyddyn 6 i Flwyddyn 7 mor llyfn a chadarnhaol â phosibl i bob dysgwr. ​
Mae ein rhaglen bontio wedi'i chynllunio'n ofalus gan benaethiaid ar draws y clwstwr ac wedi'i chymeradwyo gan ein Cyrff Llywodraethol. Gallwch ddod o hyd i'n Cynllun Pontio llawn a'n Cyflwyniad Pontio isod.​
Gweledigaeth
Ymfalchio yn ein cymuned lleol a hybu Cymreictod mewn ardal o Gymru sy’n unigryw o ran diwylliant, cymdeithas a hanes.
Datblygu pob unigolyn yng nghymuned yr ysgol i fod y gorau maent yn gallu bod gan annog uchelgais a dysgu gydol oes.
Creu cymuned hapus o fewn yr ysgol lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn ac yn cael eu trin yn deg gyda phawb yn parchu ei gilydd.
Darparu addysg o’r safon uchaf gydag unigolion yn datblygu i fod yn alluog a gwybodus ac sy’n cyfrannu’n llawn i’w cymdeithas.


Sicrhau bod lles unigolion yn flaenoriaeth gan arwain at ddatblygu unigolion iach, hyderus a gwydn sy’n gallu gwneud cynnydd a symud ymlaen tuag at ddyfodol llwyddiannus.
Datblygu unigolion sy’n ddinasyddion egwyddorol ac sy’n ymddiddori mewn materion sy’n ymwneud â’u hardal leol, Cymru, Ewrop a’r byd.
Hybu unioglion i fod yn greadigol ac yn fentrus gan wneud y mwyaf o’u talentau a’u diddordebau a sicrhau ein bod yn darparu profiadau gwych i holl gymuned yr ysgol.
Annog cydweithredu ardderchog rhwng pob aelod o gymuned yr ysgol gan greu awyrgylch o ymddiriedolaeth, caredigrwydd, cynhesrwydd a hwyl.

Dyluniwyd gan Icon Creative Design
Ysgol Gyfun Gwent Is Coed
Ffordd Dyffryn
Casnewydd
NP10 8BX
CYSYLLTWCH Â NI
gwent.iscoed@ysgolioncasnewydd.cymru
Phone: ​01633 851614
Ysgol Gyfun Gwent Is Coed © 2026
DILYNWCH NI

CYSYLLTIADAU CYFLYM
