
Darpariaeth ôl-16
Llongyfarchiadau i Ddosbarth 2025 am eu canlyniadau Lefel A eithriadol, gan gyrraedd 29% A*-A ac 81% A*-C.
Mae hyn yn adlewyrchu ethos academaidd cryf ein Chweched Dosbarth a chynnydd unigol ein myfyrwyr, gyda’n chanlyniadau yn y 25% uchaf yn y DU; gan sicrhau bod pob dysgwr wedi derbyn eu cynnig prifysgol dewis cyntaf.
Mae’n bleser gennym groesawu myfyrwyr i’n Chweched Dosbarth yn Ysgol Gyfun Gwent Is Coed, lle rydym yn cynnig ystod eang o gymwysterau a phrofiadau i’n myfyrwyr ôl 16.

Rydym yn hynod falch o'n myfyrwyr Chweched Dosbarth sy'n cyfrannu'n helaeth at gymuned ein hysgol. Maent yn cael eu gweld fel modelau rôl rhagorol, yn mentora disgyblion iau, yn ysgogi cymorth rhifedd a llythrennedd i ddisgyblion ym Mlynyddoedd 7 ac 8 o fewn ein rhaglenni ‘Bydis Darllen’ a ‘Ffigyrau Ystyrlon’. Maent yn arwain ac yn chwarae rhan hanfodol yn Eisteddfod yr Ysgol, mewn clybiau ac wrth gefnogi ystod eang o waith elusennol o fewn ein cymuned.
Yn academaidd, mae myfyrwyr yn y Chweched Dosbarth yn perfformio i safon uchel iawn ac yn llwyddo i dderbyn graddau uchel gan sicrhau lleoedd ar gyrsiau cystadleuol mewn sefydliadau Addysg Uwch ledled y DU.
Gall myfyrwyr elwa o gyfleusterau o ansawdd uchel gan gynnwys TGCh fodern, ystafelloedd astudio, Lolfa’r Chweched a chyfleusterau chwaraeon newydd. Yn aml o fewn cyfnodau llais y dysgwr, mae myfyrwyr yn canmol y cymorth ac arweiniad o ansawdd uchel maent yn derbyn gan eu tiwtoriaid arbenigol, gan gynnwys y broses UCAS.
Ein nod yw annog myfyrwyr i ddatblygu'n academaidd, yn bersonol ac yn gymdeithasol. Ac yn bwysicach oll, hyrwyddo ethos Cymraeg yr ysgol fel arweinwyr ifanc, cyfrifol drwy eu profiadau fel aelodau o gymuned Ysgol Gyfun Gwent Is Coed.
Arweinydd Lles a Chynnydd
y Chweched Dosbarth

Miss S Jenkins
Chweched Dosbarth

Dirprwy Brif Swyddogion
Seren Lian
Alex Gully
Hanna Lovesey
Prif Swyddogion
Haydn Thomason
Alexander Stathakis
Dyluniwyd gan Icon Creative Design
Ysgol Gyfun Gwent Is Coed
Ffordd Dyffryn
Casnewydd
NP10 8BX
CYSYLLTWCH Â NI
gwent.iscoed@ysgolioncasnewydd.cymru
Phone: 01633 851614
Ysgol Gyfun Gwent Is Coed © 2026
DILYNWCH NI

CYSYLLTIADAU CYFLYM


