top of page
050226_158 Immersion Main.jpg

Trochi 

Beth yw dysgu trwy drochi?

Mae dysgu iaith drwy drochi yn her gyffrous – byddwch yn cael eich trochi a’ch amgylchynu gan yr iaith Gymraeg o’r cychwyn cyntaf wrth i chi gychwyn ar eich taith iaith. Bydd gwersi iaith dwys am o leiaf 12 wythnos yn golygu eich bod yn troi’n siaradwr ac yn cyfathrebu’n hyderus yn yr iaith o fewn dim o amser! Dyma ychydig o bethau iw hystyried cyn cychwyn ar eich taith iaith.

050226_331.jpg

I bwy mae trochi iaith?

Yma yn Ysgol Gyfun Gwent Is Coed rydym yn croesawu dysgwyr o flynyddoedd 7, 8 neu 9 sydd ddim wedi mynychu ysgolion cynradd Cymraeg i ymgymryd â’r dasg gyffrous a heriol o ddod yn siaradwyr Cymraeg rhugl.

Beth ydy Trochi?

Wrth ymuno a ni n Ysgol Gyfun Gwent Is Coed byddwch yn treulio eich tymor cyntaf mewn dosbarth bach gydag athro penodol yn cael eich trochi yn yr iaith Gymraeg. Byddwch yn ymuno a’ch cyfoedion ar gyfer cofrestru a gwersi Saesneg, ond eich ffocws am weddill yr amser bydd gwella ac ymestyn eich rhuglder yn y Gymraeg er mwyn caniatáu i chi gael mynediad i gwricwlwm llawn trwy gyfrwng y Gymraeg.

Beth yw gwersi trochi?

Byddwn yn ffocysu ar siarad a deall Cymraeg. Trwy chwarae rôl, darllen, ysgrifennu, gemau, canu a llond trol o weithgareddau hwyl fe fyddwn yn eich amgylchynu gyda’r Gymraeg wrth ddysgu mwy am dreftadaeth Cymru. Ein bwriad yw i gael hwyl a dysgu gyda’n gilydd fel bod siarad, clywed a sgwrsio yn Gymraeg yn dod yn naturiol i chi.

050226_139 Immersion Third.jpg

Beth sy’n digwydd ar ôl y dosbarth trochi?

Unwaith y byddwch yn hyderus ac yn medru siarad a darllen Cymraeg yn rhugl byddwch yn ail-ymuno gyda’ch cyfoedion ac yn mynychu ystod lawn o wersi. Cynigir cefnogaeth wedi ei dargedu a bydd tasgau wedi eu gwahaniaethu’n briodol wrth i chi ddechrau’r broses pontio i’ch gwersi iawn.

Gwyliwch y fideos hyn

Go

BBC: Ehangu cymorth trochi yn y gymraeg ar draws cymru

Go

Fideo hyrwyddo Casnewydd

Go

Fideo trochi 2023

050226_177.jpg

Peidiwch ag oedi -
dewch i ymuno heddiw!!

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:

Mrs Rhiannon England

Arweinydd y Ganolfan Trochi a Chefnogi Iaith

Dyluniwyd gan Icon Creative Design

Ysgol Gyfun Gwent Is Coed 

Ffordd Dyffryn
Casnewydd
NP10 8BX

CYSYLLTWCH Â NI

gwent.iscoed@ysgolioncasnewydd.cymru

Phone: ​01633 851614

Ysgol Gyfun Gwent Is Coed © 2026

DILYNWCH NI

Cymraeg I Bawb_Cymraeg I Bawb.webp
bottom of page