
Gwybodaeth
Allweddol
Eich prif ganolfan wybodaeth ar gyfer Ysgol Gyfun Gwent Is Coed — popeth sydd ei angen arnoch fel rhiant neu ofalwr, mewn un lle cyfleus.
Diogelu
Gweler dogfen polisi diogelu ein hysgol:

Mae Ysgol Gyfun Gwent Is Coed yn cydnabod yn iawn y cyfraniad a wna at amddiffyn plant. Mae tair prif elfen i’n polisi:
-
Atal drwy addysgu a chymorth bugeiliol a gynigir i ddisgyblion
-
Gweithdrefnau ar gyfer nodi ac adrodd ar achosion, neu achosion a amheuir, o gam-drin. Oherwydd ein cyswllt o ddydd i ddydd â phlant, mae staff ysgol mewn sefyllfa dda i sylwi ar arwyddion allanol cam-drin.
-
Cymorth i ddisgyblion sydd o bosibl wedi cael eu cam-drin.
Oes oes gennych unrhyw bryderon am blentyn neu oedolyn, rhowch wybod i’ch aelod staff dynodedig (Pennaeth Lles a Chynnydd) neu i swyddfa ein hysgol sydd yn gallu rhannu unrhyw bryderon gyda Swyddog Diogelu Dynodedig yr ysgol:
Mr Owain James, Pennaeth Cynorthwyol (SDD)
Mrs Abigail Williams, Diprwy Bennaeth (DSDD)
Er mwyn sicrhau bod gennym y wybodaeth cyswllt/feddygol dysgwyr mwyaf cyfredol ar gyfer cofnodion ein hysgol, cyfrifoldeb y rhiant/gofalwr yw anfon e-bost at gwent.iscoed@ysgolioncasnewydd.cymru, cyn gynted â phosibl ynghylch unrhyw newidiadau i’r manylion cyswllt e.e. symud tŷ, rhifau ffôn, cyfeiriad e-bost, ac ati.
Nid yw Ysgol Gyfun Gwent Is Coed yn cymryd cyfrifoldeb am unrhyw eitemau a gollir ar y safle. Cyfrifoldeb y dysgwyr yw chwilio am ei eitem(au) coll a cynghorir iddynt ail-ddilyn eu camau ac ymweld â'u hystafelloedd dosbarth neu'r Brif Dderbynfa i ddod o hyd i eitemau coll.
Gwnewch yn siŵr bod eiddo eich plentyn wedi'u labelu'n glir gyda'u henw llawn er mwyn i ni allu dychwelyd eitemau i'r person cywir. Gall dysgwyr fynd i'r Brif Dderbynfa yn ystod amser egwyl ac amser cinio os ydynt wedi colli eitem. Fodd bynnag, ni allwn gymryd cyfrifoldeb os yw eitem yn cael ei chasglu gan y person anghywir.
Cymorth Ariannol
Isod mae dolenni cymorth ariannol gyda gwybodaeth gynorthwyol ar gyfer Rhieni a Gofalwyr.
Prydau Ysgol Am Ddim
Isod mae dolenni cymorth ariannol gyda gwybodaeth gefnogol i Rieni a Gofalwyr:


Dyluniwyd gan Icon Creative Design
Ysgol Gyfun Gwent Is Coed
Ffordd Dyffryn
Casnewydd
NP10 8BX
CYSYLLTWCH Â NI
gwent.iscoed@ysgolioncasnewydd.cymru
Phone: 01633 851614
Ysgol Gyfun Gwent Is Coed © 2026
DILYNWCH NI

CYSYLLTIADAU CYFLYM