Mae dysgu iaith drwy drochi yn her gyffrous – dyma ychydig o bethau i’w hystyried
wrth i chi gychwyn ar eich taith trochi ac amlinelliad o sut y gallwch fod yn rhugl a chodi
eich hyder.
I bwy mae hyn?
Yma yn Ysgol Gyfun Gwent Is Coed rydym yn croesawu dysgwyr o flynyddoedd 7 neu sydd ddim wedi mynychu ysgolion cynradd Cymraeg i ymgymryd â’r dasg gyffrous a heriol o ddod yn siaradwyr Cymraeg rhugl.
Beth ydy Trochi?
Wrth ymuno a ni yng Ngwent Is Coed byddwch yn treulio eich tymor cyntaf mewn dosbarth bach gydag athro penodol yn cael eich trochi yn yr iaith Gymraeg. Byddwch yn ymuno a’ch cyfoedion ar gyfer cofrestru, Saesneg ac Addysg Gorfforol, ond eich ffocws am weddill yr amser bydd gwella ac ymestyn eich rhuglder yn y Gymraeg er mwyn caniatáu i chi gael mynediad i gwricwlwm llawn trwy gyfrwng y Gymraeg.
Beth yw gwersi trochi?
Byddwn yn ffocysu a siarad a deall Cymraeg. Trwy chwarae rôl, darllen, ysgrifennu, gemau, canu a llond trol o weithgareddau hwyl fe fyddwn yn amgylchynu gyda’r Gymraeg wrth ddysgu mwy am dreftadaeth Cymru. Ein bwriad yw i gael hwyl a dysgu gyda’n gilydd fel bod siarad, clywed a sgwrsio yn Gymraeg yn dodyn naturiol i chi.
Beth sy’n digwydd ar ôl y dosbarth trochi?
Unwaith y byddwch yn hyderus ac yn medru siarad a darllen Cymraeg yn rhugl byddwch yn ail-ymuno gyda’ch cyfoedion a mynychu ystod lawn o wersi. Cynigir cefnogaeth wedi ei dargedu a bydd tasgau wedi eu gwahaniaethu’n briodol wrth i chi ddechrau’r broses pontio i’ch gwersi iawn.
Os hoffech fwy o wybodaeth am sut y gallwch gefnogi eich plentyn neu os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach, mae croeso i chi gysylltu gyda ni:
Mrs Rhiannon England (Athrawes Trochi a Chefnogi Iaith)
Email: [email protected]