Sut i gefnogi eich plentyn
Sut i gefnogi eich plentyn:
Mae ymchwil yn dangos bod rôl rhieni sy’n ymwneud ag addysg eu plant yn allweddol er mwyn gwella’u cyrhaeddiadau a llwyddiannau, yn ogystal a’u ymddygiad a’u presenoldeb cyffredinol.
Mae dysgu o ansawdd uchel yn y cartref yn cyfrannu mwy at ddatblygiad deallusol a chymdeithasol plentyn na swydd, addysg neu incwm rhiant.
Gweler isod ar gyfer rhai awgrymiadau: mae’n bosibl eich bod yn gwneud rhai ohonynt eisoes.
Cofiwch gysylltu gyda’r ysgol os oes unrhyw broblemau
Gwisg YsgolYn dilyn ymgynghoriad gyda’r holl randdeiliaid rydym wedi sicrhau fod y wisg yn cydymffurfio gydag egwyddorion canllawiau gwisg Llywodraeth Cymru;
● Hyblyg ● Cyfforddus ● Ymarferol ● Fforddiadwy ● Cynhwysol ● Perthyn |
Ffurflen Newid Data DisgyblMae'n eithriadol o bwysig bod y wybodaeth gyswllt ar gyfer pob un o'n dysgwyr yn gywir ac yn gyfredol. Os ydych chi wedi newid unrhyw fanylion a restrir yn y daflen wybodaeth am ddisgyblion mae'n hanfodol eich bod yn rhoi gwybod i ni.
Os hoffech drafod sut i ddiweddaru gwybodaeth am ddysgwyr croeso i chi gysylltu â ni (01633) 851614 neu gallwch ddiweddaru gwybodaeth am ddisgyblion uchod a dychwelyd y ffurflen drwy eich plentyn neu ei e-bostio i [email protected] |
|
Cludiant i Ysgol Gyfun Gwent Is Coed
|
ParentPay
Mae prydau ysgol yn Ysgol Gyfun Gwent Is Coed yn cael eu darparu gan Chartwells Arlwyo. Am wybodaeth bellach am Chartwells ac i gael rhagolwg eu bwydlenni,
Cliciwch yma am wybodaeth am gynnydd yn y pris. Mae'r ysgol yn gweithredu system til di-arian felly, fe fydd yr holl ddisgyblion yn derbyn cerdyn cinio ac gallwch ychwanegu arian trwy fewngofnodi i'ch cyfrif ParentPay ar-lein. Am wybodaeth bellach am ParentPay neu sut i ychwanegu arian ir cerdyn cinio ewch i 'Cyfarwyddiadau ParentPay. I gael mwy o gwybodaeth am brydau ysgol am ddim a sut i wneud cais, Ewch i Prydau Ysgol am ddim. |
Costau Byw
Rydym yn ymwybodol iawn o'r heriau sy'n wynebu ein teuluoedd ar hyn o bryd o ran costau byw cynyddol. Y mae nifer o agweddau yn gwneud bywyd yn anoddach yn enwedig costau uwch tanwydd, egni, bwyd a dillad a nifer o agweddau eraill.
Ein bwriad yn rhan hwn y wefan yw rhoi manylion i chi o ba asiantaethau a chyngor sydd ar gael yn ein cymuned ac yn genedlaethol er mwyn eich helpu chi i geisio mynd trwy'r cyfnod heriol hwn. Byddwn yn ychwanegu at y wybodaeth wrth i ni ei dderbyn ac os ydych chi'n gweithio mewn maes a fyddai o fudd i'n cymuned ni fel ysgol yna rhowch wybod i ni fel ein bod yn gallu ychwanegu'r wybodaeth neu gysylltu â chi am gymorth pellach. Os hoffech chi ein helpu ni fel llywodraethwyr i gasglu a choladu'r wybodaeth yna cysylltwch â ni drwy'r ysgol i gynnig eich cymorth. Diolch o flaen llaw am eich cefnogaeth. |