Ysgol Gyfun Gwent Is Coed
Mae Ysgol Gyfun Gwent Is Coed yn ysgol uwchradd ddynodedig cyfrwng Cymraeg i ddysgwyr rhwng 11 ac 18 oed. Caiff ei chynnal gan Cyngor Dinas Casnewydd ac mae’n gwasanaethu Casnewydd a De Mynwy. Iaith swyddogol Ysgol Gyfun Gwent Is Coed yw’r Gymraeg a dyma gyfrwng dysgu ac arholi pob pwnc ar wahân i Saesneg. Bydd pob disgybl yn astudio Cymraeg fel pwnc ac yn sefyll arholiadau iaith gyntaf yn unig yn y Gymraeg.Mae Ysgol Gyfun Gwent Is Coed yn gynhwysol. O dan amgylchiadau arferol mae mynediad i Ysgol Gyfun Gwent Is Coed yn agored i ddisgyblion 11+ oed o unrhyw allu a gydag anghenion arbennig. Rhoddir cyfle i bob disgybl ddatblygu hyd eithaf ei allu yn academaidd, yn gymdeithasol, yn ddiwylliannol ac yn gorfforol. Paratoir pob disgybl ar gyfer gofynion byd gwaith. Cynigr yr un cyfle cyfartal i bawb heb wahaniaethu ar sail gallu, rhyw, hil na chrefydd.
Cyfnod Alleddol 3
Opsiynau Blwyddyn 9
Mae'n gyfnod cyffrous ym mywyd dysgwyr Blwyddyn 9. Mae’n gyfnod o newid, cyfnod o ddewis a ddylai arwain at yrfa lwyddiannus a ffyniannus. Cynigir llawer o bynciau a astudir yng Nghyfnod Allweddol 3 ym Mlwyddyn 10, ond bellach bydd cyfle i ddewis cyfeiriad personol; gall y llwybr newydd fod yn un arbenigol, neu gallai gynnwys nifer o opsiynau i ganiatáu dewis ehangach yn y dyfodol.