Llythyr Rhieni 04/09/26
Bore da,
mae wedi bod yn hyfryd croesawu ein dysgwyr yn ôl wythnos yma ar ôl y gwyliau ac i ddod i adnabod ein dysgwyr newydd ym mlwyddyn 7. Rydym wedi cael wythnos lwyddiannus iawn er gwaethaf y tywydd gwael ar ddydd Mercher!!
Diolch i chi gyd am sicrhau bod eich plant yn gwisgo'r wisg gywir sy’n hollbwysig i ni yn Ysgol Gyfun Gwent Is Coed. Mae nhw'n edrych yn drwsiadus iawn ac mae yna ymdeimlad o berthyn a balchder yn yr ysgol. Mae angen i ni i gyd barhau i weithio gyda'n gilydd i sicrhau bod y positifrwydd hwn yn parhau. Dyma ddolen ar gyfer gwisg ysgol Gwisg Ysgol Gyfun Gwent Is Coed (3).pdf
Rydym yn hynod o falch o'n holl fyfyrwyr TGAU a Safon Uwch a gafodd ganlyniadau da iawn yn yr haf. Roedd 37% o'r holl lefelau A yn A*-A gydag 81% yn A*-C. Llwyddodd pob myfyriwr a wnaeth gais i fynd i'r brifysgol i fynd i'w prifysgol dewis cyntaf, gyda llawer ohonynyt yn mynychu prifysgolion Russell Group. Llongyfarchiadau i bob un ohonynt.
Rydym hefyd yn dymuno’r gorau i ddysgwyr blwyddyn 11 llynedd sydd wedi dewis mynd i goleg neu i wneud prentisiaeth. Rydym yn ffyddiog iawn y byddent yn creu argraff gadarnhaol ac yn dilyn llwybrau gyrfa llwyddiannus. Mae nifer sylweddol ohonynt wedi dod nôl atom i flwyddyn 12 ac rydym yn edrych ymlaen i’w gweld yn tyfu ac yn ffynu gyda ni yn yr ysgol.
Rydym yn ffodus iawn i allu croesawu aelodau staff newydd i’r ysgol;
● Anna Davies - Saesneg
● Lowri Green - Cymraeg
● Anais Walsh - gwyddoniaeth a mathemateg
● Dan O’Sullivan - mathemateg
● Seren Ball - cynorthwyydd
● Jack Ellison - cynorthwyydd
Yn ogystal, mae rhai newidiadau wedi bod yn y tîm lles a chynnydd. Dyma’r tîm ar gyfer eleni;
● Gwilym Powell - arweinydd lles a chynnydd blwyddyn 7
● Geraint Davies - arweinydd lles a chynnydd blwyddyn 8
● Ffion Edmunds - arweinydd lles a chynnydd blwyddyn 9
● Lauren Harris - arweinydd lles a chynnydd blwyddyn 10
● Annie Scourfield - arweinydd lles a chynnydd blwyddyn 11
● Siân Jenkins - arweinydd lles a chynnydd blynyddoedd 12 a 13
Hoffwn fanteisio ar y cyfle yma i’ch atgoffa am ddyddiadau pwysig y flwyddyn.
Dyddiadau pwysig
7/10/26 – noson rhieni blwyddyn 7 (bugeiliol)
4/11/26 – noson rhieni blwyddyn 11
2/12/26 – noson rhieni blwyddyn 10
20/01/27 – noson rhieni blwyddyn 9
3/02/27 – noson opsiynau blwyddyn 11
10/03/27 – noson rhieni bl 12 ac 13
18/03/27 – noson adolygu bl 10 ac 11 (rhithiwr)
7/07/27 - noson opsiynau blwyddyn 9
5/05/27 – noson rhieni bl8
9/06/27 – noson rhieni bl7
23/06/27 – diwrnod a noson pontio bl6
30/06/27 - noson pontio blwyddyn 5
Diwrnodau HMS
1/09/26
30/11/26
1/12/26
5/02/27
15/02/27
25/06/27
Offer
Disgwylir i ddysgwyr ddod ag offer ysgrifennu priodol i’r ysgol a dylai eu cas pensiliau gynnwys: beiros du/glas, beiro goch, pensil, pren mesur a rwber. Nid oes caniatâd i ddysgwyr ddod a “tipp-ex”.
Dylai dysgwyr hefyd ddod â photel ddŵr i’r ysgol.
Ffonau symudol
Hoffwn ddiolch i chi am eich cefnogaeth wrth i ni barhau i weithredu ein polisi ffonau symudol. Nid oes hawl gan ddysgwyr ddefnyddio eu ffonau o gwbwl yn ystod y diwrnod ysgol a dylsai fod yn eu bagiau ar bob achlysur. Os ydynt angen ffonio gallent ddod i ofyn am ganiatad gan aelod o staff. Os yw dysgwr yn gwrthod cydymffurfio byddwn yn cadw’r ffôn yn y swyddfa nes ddiwedd y diwrnod ysgol.
Costau byw
Mae grant ar gael ar gyfer prynu gwisg ysgol ac adnoddau. Dyma’r ddolen Grant Hanfodion Ysgol: help gyda chostau ysgol | LLYW.CYMRU
Os ydych yn credu eich bod yn gymwys am Brydau Ysgol am Ddim, gellir gwneud cais drwy lenwi’r ffurflen isod. Mae hyn yn hollbwysig ar gyfer rhieni blwyddyn 7 gan nad yw cinio ysgol uwchradd am ddim (yn wahanol i’r ysgolion cynradd).
Gwefan Ysgol
Mae ein gwefan ysgol newydd yn cael ei ddiweddaru yn gyson felly gellir dod o hyd i’r holl wybodaeth gyfredol am yr ysgol ar www.gwentiscoed.cymru
Diolch i chi am eich cefnogaeth barhaus wrth edrych ymlaen at flwyddyn lwyddiannus arall.
Cofion cynnes,
Mrs Eirian Jones
Pennaeth




Comments