Llythyr Rhieni 17/07/26
- Jul 17
- 3 min read
Bore da,
Rydyn ni wedi dod i ddiwedd blwyddyn brysur a chyffrous arall yn hanes Ysgol Gyfun Gwent Is Coed ac hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i chi i gyd am eich cefnogaeth barhaus.
Eleni gwelwyd ein pedwerydd carfan o ddysgwyr yn sefyll arholiadau allanol lefel A. Edrychwn ymlaen yn eiddgar at dderbyn y canlyniadau yma a chanlyniadau TGAU ym mis Awst. Gwelwyd hefyd nifer fawr o weithgareddau, teithiau allgyrsiol a chystadlaethau chwaraeon. Dyma ddolen i gyflwyniad sy’n dangos detholiad o’r rhain Lluniau Tymor Haf 2026. Byddwn yn parhau gyda’r ddarpariaeth bwysig hon yn y flwyddyn academaidd nesaf er mwyn sicrhau fod pob dysgwr yn derbyn profiadau gwerthfawr sy’n cyfoethogi eu haddysg.
Ni fyddai unrhyw un o’r uchod yn bosibl heb waith caled ein staff. Mae staff Ysgol Gyfun Gwent Is Coed yn grŵp arbennig o bobl sy’n rhoi o’u gorau ar bob achlysur gyda brwdfrydedd ac angerdd. Hoffwn ddiolch yn fawr iddynt o waelod fy nghalon am eu dyfalbarhad, cefnogaeth a blaengaredd.
Rydym yn dymuno pob lwc i Ms Alis Lewis sy’n ein gadael i fod yn bennaeth cynorthwyol yn Ysgol Llangynwyd ac i Ms Ffion Davies sy’n mynd i fod yn arweinydd Saesneg yn Ysgol Tryfan, Bangor. Rydym yn dymuno’n dda hefyd i Ms Cari Morrish sy’n mynd i ddysgu yn Ysgol Y Ffin ym mis Medi. Mae cyfraniad y dair wedi bod yn amhrisiadwy a byddwn yn gweld eu colled yn fawr.
Isod mae gwybodaeth bwysig ar gyfer dychwelyd i'r ysgol ym mis Medi;
Dyddiadau pwysig
13/08/26 - canlyniadau lefel A ac UG. Bydd yr ysgol ar agor i ddysgwyr rhwng 9.00y.b. ac 11.00y.b.
20/08/26 - canlyniadau TGAU blynyddoedd 10 ac 11. Bydd yr ysgol ar agor i ddysgwyr rhwng 9.00y.b. ac 11.00y.b.
1/9/26 - HMS - dim ysgol i’r dysgwyr
2/9/26 - blynyddoedd 7 a 12 yn yr ysgol
3/9/26 - pob blwyddyn yn ôl yn yr ysgol
7/10/26 – noson rhieni blwyddyn 7 (bugeiliol)
4/11/26 – noson rhieni blwyddyn 11
2/12/26 – noson rhieni blwyddyn 10
20/01/27 – noson rhieni blwyddyn 9
3/02/27 – noson opsiynau blwyddyn 11
10/03/27 – noson rhieni bl 12 ac 13
18/03/27 – noson adolygu bl 10 ac 11 (rhithiwr)
7/04/27 - noson opsiynau blwyddyn 9
5/05/27 – noson rhieni bl8
9/06/27 – noson rhieni bl7
23/06/27 – diwrnod a noson pontio bl6
30/06/27 - noson pontio blwyddyn 5
Diwrnodau HMS
1/09/26
30/11/26
1/12/26
5/02/27
15/02/27
25/06/27
Gwisg ysgol
Mae gwisgo’r wisg gywir yn hanfodol er mwyn bod pob unigolyn yn teimlo’n rhan lawn o gymuned yr ysgol. Mae cyflwyniad yn y ddolen yma sy’n amlinellu disgwyliadau’r wisg ysgol Gwisg Ysgol Gyfun Gwent Is Coed (3).pdf Byddem yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth i sicrhau bod ein holl ddysgwyr yn cadw at ein disgwyliadau am hyn.
Dyma ddolen ar gyfer gwneud cais am grant i gynorthwyo gyda prynu gwsig ysgol ac adnoddau - Grant Hanfodion Ysgol: help gyda chostau ysgol | LLYW.CYMRU
Bydd y siop wisg ar agor ym mis Medi ac rydym dal yn derbyn unrhyw roddion o ran gwisgoedd sydd wedi mynd yn rhy fach.
Rydym yn gofyn i chi beidio â gadael i'ch plentyn ddod i'r ysgol yn gwisgo llawer o golur neu gyda lliw gwallt annaturiol. Caniateir i ddysgwyr wisgo un clustlws bychan ym mhob clust yn unig. Nid ydym yn caniatáu farnais ewinedd lliw llachar na rhai ffug am resymau iechyd a diogelwch. Diolch am eich cydweithrediad gyda hyn.
Cinio ysgol
Os ydych yn credu eich bod yn gymwys am Brydau Ysgol am Ddim, gellir gwneud cais drwy lenwi’r ffurflen isod;
Offer
Disgwylir i ddysgwyr ddod ag offer ysgrifennu priodol i’r ysgol a dylai eu cas pensiliau gynnwys: beiros du, beiro goch, pensil, pren mesur a rwber. Nid oes caniatâd i ddysgwyr ddod a “tipp-ex”.
Dylai dysgwyr hefyd ddod â photel ddŵr i’r ysgol.
Wrth i ni edrych ymlaen i flwyddyn academaidd llwyddiannus arall yn 2026-2027 hoffwn ddymuno gwyliau hapus i chi gyd.
Cofion cynnes,
Mrs Eirian Jones
Pennaeth



Comments