top of page

Llythyr Arholiadau - Blwyddyn 11

  • May 6
  • 1 min read

Prynhawn da,

 

Fel rydych yn ymwybodol mae’r cyfnod arholiadau yn cychwyn fory ar gyfer ein dysgwyr ym mlwyddyn 11.  Rydym yn dymuno pob lwc i bob un ohonynt yn ystod y cyfnod yma.

 

Mae’n bwysig iawn fod pob dysgwr yn dilyn y canllawiau canlynol;

 

•       Cyrraedd y Neuadd/Llyfrgell erbyn 8.50am yn y bore a 12.20pm yn y prynhawn.

•       Gwisgo’r wisg ysgol cywir.

•       Dod â’r offer canlynol i bob arholiad – beiro/pen du, pensil, pren mesur (mewn cas pensil tryloyw, di-liw).

•       Dod âc onglydd a chwmpawd i bob arholiad mathemateg. 

•       Dod â chyfrifiannell i’r arholiadau mathemateg sy’n digwydd ar y 3/6 a’r 10/6 yn ogystal â phob arholiad gwyddoniaeth.

•       Gallwch ddod â dwr fewn mewn potel ddŵr pwrpasol neu mewn potel plastig heb label.

•       Cadw ffonau symudol yn eich bag sy’n cael ei adael yn y stordy yng nghefn y Neuadd/tu allan i’r Llyfrgell.

•       Nid oes hawl gan unrhyw un i wisgo “smart watch”.

 

Cynhelir cyfnodau adolygu pwrpasol ar gyfer y pynciau craidd.  Mae’n hollbwysig bod eich plant yn mynychu’r rhain.  Gweler yr amserlen isod;



Gan ddiolch i chi gyda am eich cefnogaeth barhaus. 


Mrs Eirian Jones 

Pennaeth 

 
 
 

Comments


Dyluniwyd gan Icon Creative Design

Ysgol Gyfun Gwent Is Coed 

Ffordd Dyffryn
Casnewydd
NP10 8BX

CYSYLLTWCH Â NI

Ysgol Gyfun Gwent Is Coed © 2026

DILYNWCH NI

Cymraeg I Bawb_Cymraeg I Bawb.webp
bottom of page