Gwisg Ysgol - Medi 2026
- 2 days ago
- 1 min read
Diolch yn fawr iawn i gymaint ohonoch am ymateb i’r holiadur gwisg ysgol. O ran lliw y trowsus/sgert yr opsiwn mwyaf poblogaidd oedd cymysgedd o lwyd a du. Felly, o mis Medi 2026 ymlaen byddwn yn caniatáu trowsus/sgert/trowsus byr llwyd canolig neu ddu. Bydd blaser, siwmper, cardigan a crys chwys gyda logo’r ysgol yn parhau.
Yn ogystal, yn dilyn sylwadau gan rieni, byddwn yn caniatáu dysgwyr i wisgo crys T coch neu ddu plaen (heb unrhyw ysgrifennu arnynt) a siorts/sgort du plaen yn lle’r wisg addysg gorfforol swyddogol. Gellid parhau i wisgo’r wisg addysg gorfforol swyddogol ond gobeithio bydd yr opsiwn o’r wisg plaen yn ysgafnhau’r baich o ran costau.
Gall ddysgwyr barhau i wisgo eu “hoodies” nes fyddent yn rhy fach.
Rwyf wedi atodi cyflwyniad sy’n esbonio’r wisg ysgol mewn mwy o ddyfnder
Cofion cynnes,
Mrs Eirian Jones (Pennaeth)




Comments