top of page

Llythyr Rhieni 18/07/25

  • Jul 18, 2025
  • 3 min read

Updated: Apr 23

Diweddariad Diwedd Blwyddyn.




Bore da, 


Rydyn ni wedi dod i ddiwedd blwyddyn brysur a chyffrous arall yn hanes Ysgol Gyfun Gwent Is Coed ac hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i chi i gyd am eich cefnogaeth barhaus. 


Eleni gwelwyd ein trydydd carfan o ddysgwyr yn sefyll arholiadau allanol lefel A. Edrychwn ymlaen yn eiddgar at dderbyn y canlyniadau yma a chanlyniadau TGAU ym mis Awst. Gwelwyd hefyd nifer fawr o weithgareddau, teithiau allgyrsiol a chystadlaethau chwaraeon. Dyma ddolen i gyflwyniad sy’n dangos detholiad o’r rhain Lluniau Tymor Haf 2025 Byddwn yn parhau gyda’r ddarpariaeth bwysig hon yn y flwyddyn academaidd nesaf er mwyn sicrhau fod pob dysgwr yn derbyn profiadau gwerthfawr sy’n cyfoethogi eu haddysg. 


Ni fyddai unrhyw un o’r uchod yn bosibl heb waith caled ein staff. Mae staff Ysgol Gyfun Gwent Is Coed yn grŵp arbennig o bobl sy’n rhoi o’u gorau ar bob achlysur gyda brwdfrydedd ac angerdd. Hoffwn ddiolch yn fawr iddynt o waelod fy nghalon am eu dyfalbarhad, cefnogaeth a blaengaredd. 


Rydym yn dymuno pob lwc i Mr Morgan Pritchard sy’n ein gadael yn dilyn cyfnod yn arolygu gwersi aelod o staff oedd ar gyfnod mamolaeth. Rydym yn dymuno’n dda hefyd i Mr Deian Jones sy’n mynd i weithio gyda CBAC am gyfnod blwyddyn nesaf cyn dychwelyd atom ym mis Mehefin 2026. 


Isod mae gwybodaeth bwysig ar gyfer dychwelyd i'r ysgol ym mis Medi; 



Dyddiadau pwysig 


14/08/25 - canlyniadau lefel A ac UG. Bydd yr ysgol ar agor i ddysgwyr rhwng 9.00y.b. ac 11.00y.b. 


21/08/25 - canlyniadau TGAU blynyddoedd 10 ac 11. Bydd yr ysgol ar agor i ddysgwyr rhwng 9.00y.b. ac 11.00y.b. 


1/9/25 - HMS - dim ysgol i’r dysgwyr 


2/9/25 - blynyddoedd 7 a 12 yn yr ysgol 


3/9/25 - pob blwyddyn yn ôl yn yr ysgol 


8/10/25 – noson rhieni blwyddyn 7 (bugeiliol) 


5/11/25 – noson rhieni blwyddyn 11 


10/12/25 – noson rhieni blwyddyn 10 


21/01/26 – noson rhieni blwyddyn 9 


4/02/26 – noson opsiynau blwyddyn 11 


11/03/26 – noson rhieni bl 12 ac 13 


19/03/26 – noson adolygu bl 10 ac 11 (rhithiwr) 


25/03/26 - noson opsiynau blwyddyn 9 


29/04/26 – noson rhieni bl8 


10/06/26 – noson rhieni bl7 


24/06/26 – diwrnod a noson pontio bl6 


2/07/26 - noson pontio blwyddyn 5 


Diwrnodau HMS 

1/09/25 

24/11/25 

13/02/26 

27/03/26 

26/06/26 

20/07/26 


Gwisg ysgol 

Mae gwisgo’r wisg gywir yn hanfodol er mwyn bod pob unigolyn yn teimlo’n rhan lawn o gymuned yr ysgol. Mae cyflwyniad yn y ddolen yma sy’n amlinellu disgwyliadau’r wisg ysgol Gwisg Ysgol 2025-2026 School Uniform.pptxBydd ein Neuadd Chwaraeon newydd yn barod ar gyfer mis Medi felly ni fydd angen i ddysgwyr ddod i’r ysgol yn eu gwisg addysg gorfforol ar ddiwrnod eu gwersi bellach. Dylai pob dysgwr ddod i’r ysgol yn y wisg ysgol arferol yna newid i’r wisg addysg gorfforol cyn y wers. Byddem yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth i sicrhau bod ein holl ddysgwyr yn cadw at ein disgwyliadau am hyn. 


Dyma ddolen ar gyfer gwneud cais am grant i gynorthwyo gyda prynu gwsig ysgol ac adnoddau - Grant Hanfodion Ysgol: help gyda chostau ysgol | LLYW.CYMRU 

Bydd y siop wisg ar agor ym mis Medi ac rydym dal yn derbyn unrhyw roddion o ran gwisgoedd sydd wedi mynd yn rhy fach. 


Rydym yn gofyn i chi beidio â gadael i'ch plentyn ddod i'r ysgol yn gwisgo llawer o golur neu gyda lliw gwallt annaturiol. Caniateir i ddysgwyr wisgo un clustlws bychan ym mhob clust yn unig. Nid ydym yn caniatáu farnais ewinedd lliw llachar na rhai ffug am resymau iechyd a diogelwch. Diolch am eich cydweithrediad gyda hyn. 


Offer 

Disgwylir i ddysgwyr ddod ag offer ysgrifennu priodol i’r ysgol a dylai eu cas pensiliau gynnwys: beiros du/glas, beiro goch, pensil, pren mesur a rwber. Nid oes caniatâd i ddysgwyr ddod a “tipp-ex”. 


Dylai dysgwyr hefyd ddod â photel ddŵr i’r ysgol. 


Wrth i ni edrych ymlaen i flwyddyn academaidd llwyddiannus arall yn 2025-2026 hoffwn ddymuno gwyliau hapus i chi gyd. 


Cofion cynnes, 


Mrs Eirian Jones


Pennaeth 

 
 
 

Comments


Commenting on this post isn't available anymore. Contact the site owner for more info.

Dyluniwyd gan Icon Creative Design

Ysgol Gyfun Gwent Is Coed 

Ffordd Dyffryn
Casnewydd
NP10 8BX

CYSYLLTWCH Â NI

Ysgol Gyfun Gwent Is Coed © 2026

DILYNWCH NI

Cymraeg I Bawb_Cymraeg I Bawb.webp
bottom of page