Llythyr Rhieni 19/12/25
- Dec 19, 2025
- 4 min read
Updated: Apr 23
Diweddariad Diwedd y Tymor.

Bore da,
Mae wedi bod yn dymor hir ond cynhyrchiol iawn yn Ysgol Gyfun Gwent Is Coed a hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch i’r holl staff am eu gwaith caled, brwdfrydedd ac egni. Mae ein plant yn hynod ffodus, gydag addysgu a dysgu da iawn a chanlyniadau rhagorol. Mae pob un plentyn wedi gwneud cynnydd arwyddocaol yn ystod y tymor oherwydd y profiadau dysgu gwerthfawr a ddarperir ar eu cyfer gan eu hathrawon. Hoffwn hefyd ddiolch i chi fel rhieni a gofalwyr am eich cefnogaeth barhaus.
Mae’r gwaith adeiladu ar y safle wedi dod i ben o’r diwedd ac rydym wedi cael defnydd o Neuadd Chwaraeon arbennig ers mis Medi. Rydym mor falch o’r cyfleuster ardderchog yma. Rydym hefyd wedi gorffen adeiladu pwmp ffynhonnell gwres sy’n golygu y byddwn yn stopio defnyddio nwy yn yr ysgol yn gyfan gwbwl dros y ddwy flynedd nesaf. Mae cwblhau’r gwaith yma wedi rhyddhau llawer iawn o le yn y maes parcio a hoffwn ddiolch i chi fel rhieni/ofalwyr am gydymffurfio gyda’r drefn gollwng a chodi newydd gan sicrhau fod ein plant yn cyrraedd ac yn gadael yr ysgol yn ddiogel.
Yn ystod yr hanner tymor cyntaf daeth Estyn ar ymweliad interim i fesur y cynnydd rydm wedi’i wneud yn erbyn ein argymhellion o’r arolwg caridd ym mis Mai 2022. Roedd y llythyr a dderbyniwyd yn dilyn yr ymweliad yn gadarnhaol iawn ac roedd y South Wales Argus wedi cyhoeddi erthygl ar y penwythnos yn canmol y cynnydd rydym wedi’i wneud fel ysgol. Dyma ddolen i’r erthygl -
Isod mae rhestr o weithgareddau a gyflawnwyd drwy gydol y tymor a dolen i gyflwyniad yn dangos lluniau o'r digwyddiadau hyn a gweithgareddau yn y dosbarth: Lluniau Tymor Hydref
Below I have included important information about returning to school in September;
Important dates
2-09-25 - trosglwyddo’r neuadd chwaraeon i YGGIC/handover of new sports hall to YGGIC
11-09-25 - gweithdy Sbarcynni Pwyllgor Eco/Energy Sparks workshop with the Eco Committee
15-09-25 - pwyllgor gwaith Eisteddfod yr Urdd 2027/working committee Urdd Eisteddfod 202
15-09-25 - Newyddion Ni yn ffilmio/Newyddion Ni filming
15-09-25 - tynnu lluniau blynyddoedd 7 a 10/years 7 and 10 photos
18-09-25 - Gwobr Durrell Pwyllgor Eco Gerddi Botaneg/Durrell Prize Eco Committee Botanic Gardens
22-09-25 - Only Boys Aloud blwyddyn 7/Only Boys Aloud year 7
22-09-25 - Sialens Peirianneg blynyddoedd 12 ac 13/years 12 and 13 Engineering Challenge
25-09-25 - Llangrannog blwyddyn 7/year 7 Llangrannog
26-09-25 - Lawnsio Prosiect Arweinwyr Nawr DCCIH/Launch of the Leaders of Now SRRC Project
29-09-25 - Catalyst Cymru blwyddyn 8
30-09-25 - taith Romeo and Juliet
1-10-25 - gweithdy Hawlio Heddwch/Peace workshop
7-10-25 - Cyngor Mawreddog Casnewydd/Newport Grand Council
14-10-25 - Gwaith maes daearyddiaeth blwyddyn 12 - Glan Llyn/Year 12 geography fieldwork - Glan Llyn
15-10-25 - gweithdy Brook Cydraddoldeb Rhywedd/Gender Equality workshop with Brook
16-10-25 - Girls into STEM blwyddyn 9
17-10-25 - Ffair Gyrfaoedd Iechyd a Gofal/Health and Social Care Careers Fair
22-10-25 - Gweithdy Egni Adnewyddadwy blwyddyn 8/Year 8 Renewable Energy Workshop
23-10-25 - Gweithdy Ynni Da Pwyllgor Eco/Good Energy Workshop Eco Committee
23-10-25 - Cynhadledd Seren blwyddyn 12/Year 12 Seren Conference
5-11-25 - Darlith Hanes Prifysgol Abertawe blwyddyn 13/Swansea University History Lecture year 13
6-11-25- Girls Get Set blwyddyn 9
6-11-25 - Gweithdy Pwyllgor Eco creu murlun/Eco Committee workshop creating a mural
7-11-25 - Taith Scriblyrs blwyddyn 9 i Brifysgol Caerdydd/Year 9 Scriblyrs trip to Cardiff University
10-11-25 - Perfformiad The Smashed Project blynyddoedd 7 ac 8
11-11-25 - Cân Eisteddfod yr Urdd gyda Dom a Lloyd/Urdd Eisteddfod song with Dom and Lloyd
12-11-25 - Gweithdy Gwrth-fwlio Cyngor Ysgol/School Council Anti-Bullying Workshop
12-11-25 - Taith Twristiaeth blwyddyn 10/Year 10 Tourism Trip
13-11-25 - Pwyllgor Eco yn cyflwyno COP30/Eco Committee presents in COP30
14-11-25 - Gweithdy Siarad Cyhoeddus Seren blwyddyn 9/Year 9 Seren Public Speaking Workshop
18-11-25 - Gweithdy Seren blwyddyn 10/Seren workshop year 10
18-11-25 - Gweithdy COP30 blynyddoedd 12 ac 13/COP30 workshop years 12 and 13
19-11-25 - Cyflwyniad Senedd Ieuenctid Cymru/Welsh Youth Parliament Presentation
20-11-25 - 1M Mentors
20-11-25 - Diwrnod Hawliau Plant/Children’s Rights Day
20-11-25 - Gweithgaredd Pedal Power/Pedal Power Activity
20-11-25 - Girls into STEM taith i Sony/Girls into STEM visit to Son
Gwisg ysgol
Fel y gwyddoch, mae ein polisi gwisg ysgol yn hyblyg iawn. Fodd bynnag, yn ddiweddar, nid yw ychydig o ddysgwyr yn cydymffurfio fel y dylent. Oes modd sicrhau fod eich plant yn dilyn y polisi gwisg ysgol yn y ddolen os gwelwch yn dda. - Gwisg Ysgol 2025-2026 School Uniform.pptx
Rydym dal i dderbyn rhoddion ar gyfer y siop gwisg ysgol. Gwerthfawrogir yn fawr unrhyw eitem o wisg ysgol glân yn enwedig hwdis/crysau chwys/siwmper neu legins/tracwisg du plaen sy'n addas ar gyfer addysg gorfforol. Mae croeso i rieni/gofalwyr i ymweld â’r siop unrhyw bryd.
Presenoldeb
Mae'n hollbwysig bod dysgwyr yn mynychu'r ysgol bob amser, oni bai eu bod yn sâl. Mae ein presenoldeb wedi gostwng ychydig ar ddiwedd y tymor hwn ac mae angen i ni gydweithio i sicrhau nad yw dysgwyr yn colli allan ar eu haddysg a’u bod yn gallu gwneud y cynnydd angenrheidiol gyda chefnogaeth eu hathrawon yn yr ysgol.
Gan ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi gyd a diolch am eich cefnogaeth barhaus.
Cofion cynnes, ,
Mrs Eirian Jones
Headteacher




Comments